Digwyddiadau Hyfforddi
CynadleddauRydym wrth ein boddau fod y gymuned addysg yn gymuned fyd-eang, yn rhoi byd o brofiadau y gallwn ei rannu i gyfoethogi dysg plant. Yn y Sefydliad Asesu rydym yn falch o’r enw da y mae’n cynadladeddau wedi ei ennill am ddod ag arbenigwyr mewn addysg ac arweinyddiaeth o bob rhan o’r byd a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd. Ers 2012 rydym wedi bod yn cynnig cyfle i arweinwyr ysgolion “gamu’n ôl” am ddiwrnod, i gael eu hysbrydoli a’u calonogi ac i ennill gwybodaeth. Mae’n gyfle i gymryd rhan, mynegi barn ac ehangu gorwelion. Ac mae hyd yn oed y rheini sy’n dod yn ôl bob blwyddyn yn gwybod eu bod yn sicr o gael digonedd o syniadau a strategaethau ymarferol newydd i fynd adref gyda nhw.
|
CyhoeddiadauMewn mwy na degawd o weithio gyda chymaint o ysgolion a sefydliadau eraill, rydym wedi bod yn gwrando ac yn dysgu, ac yn adeiladu cyfoeth o brofiad. Rydym wedi gweithio gyda phrosesau asesu ledled y wlad a ledled y byd ac wedi cyfrannu atynt. Rydym yn rhannu ffrwythau’r gwaith hwn yn ein offerynnau asesu, ac yn ein cynadleddau a’n digwyddiadau hyfforddi, ac rydym hefyd yn cyhoeddi llyfrau yn achlysurol. Gellir hefyd lawrlwytho’r holl lyfrau a werthwn mewn ffurf PDF, yn rhad ac am ddim.
|