IncertsMae Incerts, y system asesu ar-lein wreiddiol, wedi chwyldroi asesu gan athrawon. Ond mae ar ein tîm eisiau symud asesu y tu hwnt i gynnal atebolrwydd tuag at arwain a chefnogi taith ddysgu pob plentyn.
Mae ymhell dros 1,000 o ysgolion cynradd wedi dewis gweithio gyda’r Sefydliad Asesu a mabwysiadu Incerts fel eu system asesu. Dysgwch sut y gall Incerts eich helpu chi gyda chynllunio’r camau nesaf, ysgrifennu adroddiadau a phortffolios ar-lein, olrhain grwpiau bregus a mwy... |
Incerts BaselineMae Incerts Baseline yn offeryn ar-lein sydd ar gael am ddim i feithrinfeydd ac ysgolion yng Nghymru i’w helpu i ddefnyddio’r canllawiau newydd, Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Rydym yn falch o’n hanes hir o weithio gyda sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol, ac yn ddiweddar fel contractwr i Lywodraeth Cymru, i gefnogi asesu ffurfiannol o ansawdd uchel mewn ysgolion. |
Incerts SnapOs yw eich ysgol yn defnyddio offeryn ar-lein Incerts y Cyfnod Sylfaen, yna mae gennym rywbeth arall i ychwanegu mwy fyth at eich gwaith asesu.
Mae ein Snap app ar gael ar gyfer iPads a dyfeisiadau Apple ac Android eraill. Mae’n eich galluogi chi i dynnu lluniau neu recordiadau fideo/sain yn gyflym ac yn ddilyffethair, ac yna eu defnyddio i gefnogi ac i gyfoethogi eich asesiadau. |
ReportalMae ysgolion wedi bod yn anfon adroddiadau ar bapur ers cyhyd ag y gall neb ohonom ei gofio, ond mae’n bryd meddwl eto ynghlch sut i gynnwys rhieni yn yr 21ain ganrif.
Mae Incerts Reportal yn offeryn unigryw ar gyfer cyfoethogi’r ffordd yr ydych yn cyfathrebu gyda rhieni. Mewn eiliadau, gallwch greu “cod” byr ar gyfer rhieni pob plentyn sy’n eu galluogi i weld lluniau a recordiadau fideo/sain o’r hyn mae eu plentyn wedi ei wneud a’i gyflawni yn ystod y flwyddyn. Peidiwch â phoeni: ni fydd Reportal ond yn dangos iddynt yr hyn yr ydych wedi penderfynu ei rannu! Gallech roi cod mynediad i rieni bob blwyddyn gyda’u hadroddiad papur, yna gallant ddefnyddio Reportal o’u ffôn clyfar neu gyfrifiadur cartref pryd bynnag y dymunant. Gwyddom fod rhai rhieni’n hoffi rhannu eu codau gyda neiniau a theidiau, neu hyd yn oed gydag aelod o’r teulu sydd dramor dros dro. Neu gallwch gadw eu cod mynediad yn yr ysgol, a defnyddio Reportal gyda nhw mewn noson rieni. |